Bydd Ashley Batten o Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd yn siarad am yr archioleg sydd wedi ei ddarganfod oherwydd y gwaith ar safle Wylfa Newydd ar Ynys Mon. Bydd y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yn cael ei gynnal cyn y sgwrs.
Nos Fercher Ebrill 18 am 7.30 yn y Ganolfan Gymunedol Penmaenmawr. Mynediad am ddim i aelodau a £2 i ymwelwyr. Croeso cynnes i bawb. Bydd lluniaeth ysgafn sef te/coffi/bisgedi, a raffle, ar gael ar y noson.