digwyddiadau, Sgyrsiau a Theithiau Cerdded
Digwyddiadau
Caffi Carneddau – Ar Daith
Dewch i gwrdd âr tîm! Gan ddechrau yn haf 2022, mae Partneriaeth Tirwedd y Carneddau yn ymweld â chymunedau o amgylch y Carneddau er mwyn lledu'r gair am y Cynllun, rhannu gwybodaeth am gyfleoedd i gymryd rhan a dysgu am yr hyn yr ydych eisoes yn ei wneud i warchod treftadaeth yr ardal, a sut y gallwn eich cefnogi chi.
Fel rhan o’r sesiwn, gwahoddir siaradwyr ac arbenigwyr lleol i gyflwyno’r brosiectau ac i drafod treftadaeth naturiol a diwylliannol y Carneddau, o archaeoleg ac enwau lleoedd i fywyd gwyllt.
Penmaenmawr
5.00 - 8.30pm
23 Mehefin 2022
Eglwys y Berth, Bangor Road, Penmaenmawr
Siaradwyr:
Meleri Davies, Partneriaeth Ogwen – Datblygu Cymunedol yn Nyffryn Ogwen
Jane Kenney, Archaeolegydd Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd
Tirwedd Bwyeill Neolithig
Y daith:
Llanfairfechan - 19 Gorffennaf
Capel Curig - 18 Awst
Bethesda - 15 Medi
Trefriw - 13 Hydref
Rowen - 17 Tachwedd
Bydd tîm Partneriaeth Tirwedd y Carneddau yn sicrhau bod y lleoliad mor ddiogel yn erbyn Cofid â phosibl.
Sgyrsiau
Mae'r amgueddfa'n trefnu rhaglen o chwe sgwrs/darlith ar thema hanes bob blwyddyn. Mae'r rhaglen yn cael ei chynnal rhwng Hydref ac Ebrill.
Cynhelir y sgyrsiau yn Canolfan Gymunedol, o 7.30yp ar y 3ydd dydd Mercher o'r mis.
Mae mynediad am ddim i aelodau'r amgueddfa, a £3 i'r rhai nad ydyn nhw'n aelodau.
I gael gwybodaeth am ddod yn aelod o'r amgueddfa, a'r buddion, ewch i adran aelodaeth y wefan.
Teithiau Cerdded
Yn ystod misoedd yr haf, mae'r amgueddfa'n trefnu rhaglen o deithiau cerdded treftadaeth tywysedig o amgylch Penmaenmawr.
Mae'r teithiau cerdded yn rhad ac am ddim i ymuno â nhw ac yn addas i deuluoedd, ond mae croeso bob amser i roddion i helpu efo'n costau yswiriant.
Cyhoeddir y rhaglen o deithiau cerdded ar gyfer 2022 yn fuan - cadwch olwg ar y wefan am wybodaeth.