EIN CASGLIAD
Mae Amgueddfa Penmaenmawr wedi hel casgliad o dros fil o wrthrychau a ffotograffau archif. Dyma rai o’n ffefrynnau. Bydd llawer mwy o ddelweddau o’n harchif ar gael i’w gweld yma yn fuan.
Mewnanadlydd i’r rhai oedd yn dioddef o broblemau bronciol.
Crochenwaith o Horeb, y capel cyntaf i gael ei godi ym Mhenmaenmawr ym 1813.
Corn hela chwarel.
Tocynnau cofnod chwarel.
Patrick's Bazaar, un o'r siopau cyntaf yn Pant yr Afon.
Dull creu bwyeill carreg y cyfnod cynnar.
Pen bwyell carreg 5000 o flynyddoedd oed mewn paladr modern.
Set gwenithfaen.
Creodd Mr Griffiths, crydd lleol, yr esgidiau hyn i’w ferch. Bu farw o ddifftheria yn 13 mlwydd oed. Dyma’r pâr o esgidiau olaf a wnaeth Mr Griffiths.
Crochenwaith o blasty Tan-y-Foel (Noddfa), cartref Murray Gladstone, cefnder William Gladstone.
Plât coffa Gladstone o'r 1890au.
Morthwyl gwneuthurwr-set.