Bu 2017 yn flwyddyn o newid cyffrous yn Amgueddfa Penmaenmawr, ac nid yn unig rydym wedi symud i’r hen swyddfa bost yng nghanol y dref, ond rydym hefyd wedi derbyn swm bach o gyllid oddi wrth y Loteri Treftadaeth fel y cam cyntaf i ddatblygu ein cynlluniau ar gyfer dyfodol yr Amgueddfa. Rydym wedi bod yn brysur iawn yn paratoi’r wybodaeth ar gyfer yr ail gam o’n cais i’r Loteri. Os byddwn yn llwyddiannus, bydd hyn yn golygu y gallwn:
• Ailwampio’r amgueddfa gydag arddangosfeydd proffesiynol i ddangos ein casgliad am hanes Penmaenmawr
• Agor yn fwy aml ac am fwy o oriau
• Cynnig sesiynau blasu Cymraeg i ymwelwyr i Benmaenmawr a gwybodaeth am fannau i fynd a’r pethau sydd i’w gweld o gwmpas Penmaenmawr
• Cyhoeddi rhaglen o ddarlithoedd hanesyddol a digwyddiadau i lansio llyfrau
• Ymestyn ein rhaglen o deithiau cerdded hanesyddol i drigolion ac i ymwelwyr
Diolch i bawb a fu’n ein cynorthwyo trwy wirfoddoli, llenwi holiaduron a bod yn rhan o’r ymgynghoriad, rhannu eich hanesion, ac ymweld â ni yn yr Amgueddfa..
Mae’n bysedd wedi croesi ar gyfer ein cais i’r Loteri Treftadaeth yn 2018 a byddwn yn gadael i chi wybod am y canlyniad.
info@penmaenmawrmuseum.co.uk