Mae Amgueddfa Penmaenmawr yn cynnal arddangosfa o'r enw The Heat of the Battle ynghylch Ffiwsilwyr Brenhinol Cymru yn yr Aifft a Phalesteina yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Crëwyd yr arddangosfa gan Amgueddfa Wrecsam ac mae wedi bod ar daith genedlaethol.
Roedd y rhyfel yn yr Aifft a Phalasteina yn cael ei weld fel eilbeth i lawer yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Nid yw’r ffrynt yn cael ei gynnwys yn y cof poblogaidd oni bai yng nghefndir ffilm enwog David Lean, sef Lawrence of Arabia. Fodd bynnag, dyma’r ail weithrediadau pwysicaf i Brydain ar ôl Ffrynt y Gorllewin.
Bu i bum bataliwn o’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig ymladd ar draws y diffeithdir Sinai Peninsula a’r Negev, a brwydro drwy’r bryniau a dyffrynnoedd anwastad ym Mhalesteina:
1/5 (Sir y Fflint), 1/6 (Sir Gaernarfon ac Ynys Môn), 1/7 (Sir Feirionnydd a Sir Drefaldwyn), 24 (Iwmyn Sir Ddinbych) a 25 (Iwmyn Sir Drefaldwyn ac Iwmyn Ceffyl Cymraeg). Mae dau o’r naw anrhydedd brwydr yn ymddangos yn lliwiau'r gatrawd.
CYDNABYDDIAETHAU
Arianwyd yr arddangosfa deithiol a'r llyfryn hwn gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, Llywodraeth Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Dymuna Amgueddfa Wrecsam gydnabod cefnogaeth Ymddiriedolwyr Ymddiriedolaeth Amgueddfa'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig.